Socialights Abertawe

Edrychwch hefyd y tudalen “Socialights Abertawe”, grŵp newydd i lesbiaid a dynion hoyw dros 35 oed.

CAAG De Cymru

Rwyt ti wedi gweld y sîn:

Nawr tyrd I weld y tirlun!

Cymoedd gleision, llynnoedd tryloyw, arfordir penigamp, bryniau godidog gyda thremiau gwych – rwyt ti wedi gweld hysbys y bwrdd croeso a gwir yw pob gair! Mae Cymru yn wlad brydferth tu hwnt ac eto mae llawer ohonom yn methu manteisio ar y cyfle o brofi’r trysorau ar ein rhiniog. Efallai bod y syniad o fynd am dro yn atyniadol ond mae’r gwaith o ddewis ffordd a dod o hyd i’r llwybrau cudd yn dy ddigalonni; neu efallai dy fod yn teimlo yn rhy flinedig ar ôl wythnos galed o waith. Ond rho gynnig iddi, mae cerdded mewn tirlun prydferth yn ffordd heb ei hail o’th atgyfnerthu a chadw yn heini – ac yn llawer rhatach nag ymaelodi a champfa!

Mae’r Clwb Awyr Agored Hoyw, grwp De Cymru yn rhan o’r o’r Gay Outdoor Club (GOC), cymdeithas genedlaethol sydd yn gwasanaethu lesbiaid a dynion hoyw ers ei sefydlu yn 1974. Mae’r GOC wedi’i rannu yn grwpiau lleol, ac mae croeso i aelodau GOC ddod i unrhyw daith drefnwyd gan gangen nid yn unig y rhai De Cymru. Mae gwaithgareddau y GOC yn cynnwys nid cerdded yn unig ond ystod o gampau eraill fel canwio neu seiclo, ond cerdded yw ein prif waithgaredd. Mae nifer o aelodau De Cymru yn chwarae gyda’r grwp Badminton De Cymru hefyd (am fanylion anfoner e-bost at Cecil cp68@btinternet.com).

Mae ein teithiau cerdded yn amrywio o droeon hamddenol pum milltir o hyd i deithiau egnïol yn y bryniau – cysyllter gyda’r cydlyniwr i sicrhau bod y daith yn briodol i ti. Mae nifer sy’n dod ar ein teithiau yn amrywio o ddeg i gymaint â 40. Mae’r oedran yn amrywio hefyd ond gan amlaf mae’n rhwng 30 a 50. Dewch â sgidiau cadarn (nid daps) a dillad diddos. Rydym yn ymweld a thafarn lle mae bwyd ar gael ar rhai o’n teithiau, ond nid pob tro felly tyrd â phecyn bwyd pan mae’r rhaglen yn dweud bod eisiau.

Bydd croeso i ti ymuno â ni ar unrhyw un o’n teithiau heb ymaelodi i weld os hwn yw’r grwp priodol i ti. Os felly bydd ymaelodi â’r GOC yn rhoi cyfle i ti fynd ar deithiau ledled  Brydain, bydd cylchgrawn misol yn cael ei anfon i’th dy ac bydd cyfle hefyd i ti fynd i gynulliad blynyddol y GOC.

Cliciwch y botymau i’r chwith i weld ein rhaglen o deithiau, lluniau a dynnwyd ar ein teithiau, neu am sut i gysylltu.