Rhaglen

Lawrlwythiwch ein rhaglen yma

Socialights Abertawe

Edrychwch hefyd y tudalen “Socialights Abertawe”, grŵp newydd i lesbiaid a dynion hoyw dros 35 oed.

Rhaglen o deithiau 2008

4 i 14 Ionawr: Wythnos sgio yn Zermatt, Y Swisdir. Am ragor o fanylion cysylltwch Ian: Ffôn 029 2061 2853, e-bost iancardiff@talktalk.net

Dydd Sul 27 Ionawr: 27 Ionawr Abercynon-Aberfan (Taith Taf). Cwrdd am 11:00 wrth Orsaf Dan Abercynon. Cylchdaith 6 milltir o hyd yn croesi afonnydd Taf a Chynon ac yn dilyn Tramffordd Panydarren (ble rhedodd y injen stem cyntaf yn y byd) I Fynwent Aberfan ac yn ol hyd drum Abercynon. Dewch a phecyn bwyd. Cawl I ddilyn. Cydlynwr: David 01443 740183

Dydd Sul 24 Chwefror: Gogledd Bro Gwyr. Taith 6 milltir o hyd y morfa, trwy warchodfa natur coed pinwydd a thwyni i Penrhyn Whitford Point. Gwylio adar yn aber Llwchwr. Cwrdd am 11:00 yn y Maes Parcio ym mhen pella pentre Llanfadog, wrth arwydd Maes Parcio Traeth Whitford. Map OS159 cyfeiriad 439935. Cydlynwr: Ian 029 2061 2853

Dydd Sul 30 Mawrth: Rhaeadr Ystradfellte. Cwrdd am 11:00 wrth Eglwys Ystradfellte, map OS 160 Cyfeiriad 733188 am daith 7 milltir o hyd yn ymweld ag ogofeydd Porth yr Ogof a Sgwd yr Eira. Dewch a phecyn bwyd. Cydlynwr: Chris 0117 963 6847

Dydd Sul 27 Ebrill. Priordy Llanddewi Nant Hodni a Chlawdd Offa. Cwrdd am 11:00 ym Mhriordy Llanddewi Nant Hodni. Cerdded trwy gwm Hodni ar lan yr afon, ciniawa yng Nghwm Moy ac yna hyd Glawdd Offa gyda golygfeydd eang cyn dychwelyd i'r Priordy am ddiod. Dewch a phecyn bwyd. Cydlynwr: Aiden 029 20564569

Dydd Sul 27 Mai. Cylchdaith Pen-y-Fan. Taith 8 milltir o hyd, yn dringo I gopa mynydd uchaf de Cymru ym Mannau Bryceiniog heibio i lyn mynyddig Llyn Cwm Llwch. Cwrdd am 11:00 yn y maes parcio ar ben y lon 4 milltir tua’r de-orllewin o Aberhonddu (gadewch y A470 yn Libanus). Cyfeiriad OS SO006243. Dewch a phecyn bwyd. Cydlynwr: Peter 029 20484431

Dydd Sul 29 Mehefin. Taith y Canolbarth. Cwrdd am 12:00 yng Nghanolfan Croeso Cronfa Cwm Elan. Taith 9 milltir o hyd, heb fod yn rhy egniol dros Fynydd Epynt yn croesi ambell i nant. Cydlynwr: Austin: 01597 825710

Dydd Sul 27 Gorffenaf. Y Blorenge, nid nepell o’r Fenni. Taith i’r cronfeydd cysylltiedig a gorfennol diwydiannol Blaenafon. Cwrdd am 11:00 yn y Maes Parcio bach yn Llanfoist (adnabyddir fel Maes Parcio Llanfoist Crossing). Cyfeiriad OS 286132. Dewch a phecyn bwyd. Cydlynwr: Andrew: 07903 932 208

1 i 4 Awst. Ymgynull blynyddol CAAH yng Nghaerwrangon

Dydd Sul 31 Awst. Ein pererindod blynyddol i’r As Fawr ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Cwrdd am 11:00. Parcio ar y ffordd tu allan i Goleg yr Iwerydd, Dewch a phecyn bwyd. Bydd cyfle i nofio ger Yr As Fawr – felly dewch a lliain sychu os am ymdrochi. Cydlynwr: Ian 029 2061 2853

19 i 21 Medi. Penwythnos Grwpiau Cymru Gyfan (a gyda CAAG Grwp 18-39 hefyd) yn aros nos Wener a nos Sadwrn yn hostel y Brenin, Eryri, gyda theithiau dydd Sadwrn a dydd Sul. Cinio ar y cyd nos Sadwrn. Cydlynwr: Robin Eccles £25, 01745 812257

Dydd Sul 26 Hydref: Castell Carreg Cennen. Taith 4 milltir hamddenol, gyda golygfeydd bendigedig o’r castell. Gall y llwybr fod yn fwdlyd ac mae un darn byr serth ar ddiwedd y daith. Cyfarfod ym maes parcio’r castell am 11:00. Dilynwch yr arwyddion i Trap I ddod o hyd i’r Castell. O’r M4 dilynwch yr A483 i Rhydaman. Ewch trwy’r sgwar, gan ddilyn yr A474 tuag at Glanaman. Tua millitir o’r sgwar, trowch I’r chwith wrth yr arwydd i Trap (mae arwydd i safle ail-gylchu’r cyngor). Mae arwyddion at y castell o bentre' Trap. Ar ddiwedd y daith, fedrwch ymweld a’r castell (£3.50) a’r cafe. Cyswllt: Huw 01639 894988

Dydd Sul 30 Tachwedd: Cwrdd am 11:00. Cydlynwyr: Mark and Richard. Manylion i’w cadarnhau.

Dydd Sul 14 Rhagfyr: De Cymru Taith Nadolig. Taith hawdd o 4 milltir - Radyr I’r canol Caerdydd. Cinio yn Bar Ikon. Cwrdd at orsaf Radyr ar 11:00. Am fwy o fanylion cyswllt: Steve 07918 166011.